ForumWales - The Welsh Forum
Welcome to ForumWales / Croeso i ForumWales
Living in Wales? Interested in Wales? Just want to talk about Wales? ForumWales will help you meet others just like you!

To join in, simply register free of charge and start communicating. Discussion in both English and Welsh is encouraged.

If you have any questions for us, email via ForumLead@ForumWales.com.
Home Forum Resources Store Help About

treiglad

Unrhyw destun,unrhyw bwnc. (Discussions in Welsh)

Moderators: Moderators, Executive Team

treiglad

Postby Carmeini on Mon Nov 08, 2010 12:36 pm

Bues i mewn cyfarfod y noson o'r blaen lle oedd llawer o diwtoriaid yn bresennol. Doedden nhw ddim yn gallu cytuno a oedd angen treiglo ar ôl gorchmynion negyddol h.y. ydy "Peidiwch bwyta" neu Peidiwch fwyta ." yn iawn. Dw i wedi bod yn meddwl am y peth ac yn cynnig bod "Peidiwch bwyta." yn iawn ar y sail bod yr ymadrodd sylfaenol yw "Peidiwch â bwyta." ond bod yr "â" wedi cael ei ollwng. Ydy hyn yn wir?

Carmeini
User avatar
Carmeini
Senior Member
Senior Member
 
Posts: 275
Joined: Thu Jun 18, 2009 6:17 am
Location: Dan y garreg las

Re: treiglad

Postby sianco on Mon Nov 08, 2010 1:06 pm

Tiwtoriaid? 8-[ 8-[

Yn sicr, does dim treiglad ar ôl "Peidiwch (â)".

Peidiwch â gwrando arnyn nhw :shock:
sianco
Gold Veteran
Gold Veteran
 
Posts: 1877
Joined: Mon May 05, 2008 2:01 pm

Re: treiglad

Postby Siomedig on Mon Nov 08, 2010 6:13 pm

Dw i'n meddwl mai'r broblem ydy bo 'na dreiglad ar ol berfau gorchymynnol fel arfer (fel 'bwytwch gaws!' ayyb). Ond, ffurf fer o 'peidiwch a bwyta' ydy hi.
Siomedig
Elite Veteran
Elite Veteran
 
Posts: 742
Joined: Wed Nov 18, 2009 11:10 pm
Location: Wrecsam, Cymru

Re: treiglad

Postby nendwr on Wed Dec 01, 2010 3:10 pm

Na fwytaoch! ;)

Ond paid â gweud hynny gan na fydd neb yn dy ddeall a byddet ti'n swnio fel taset ti newydd gyrraedd o'r oesoedd canol! Dibynnol yw'r ferf 'na, os oes ots.
nendwr
Newbie
 
Posts: 14
Joined: Wed Dec 01, 2010 12:53 am

Re: treiglad

Postby nigelwilliams on Sun Jun 24, 2012 7:32 pm

Dyn ni'n defnyddio'r treiglad llaes wrth gwrs e.e. Peidiwch â cholli'r gath"
nigelwilliams
Newbie
 
Posts: 2
Joined: Wed Apr 25, 2012 12:39 pm


Return to Lle I Siarad Cymraeg Yn Unig

Who is online

Users browsing this forum: No registered users and 1 guest

cron